Mae sicrhau bod Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy ddefnyddio’r wybodaeth. Defnyddir y termau ‘gwybodaeth’ a ‘data personol’ yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio’n llwyr â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi cael ei greu er mwyn esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â’ch data personol.
1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol
Bydd y wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch yn cael ei defnyddio at y diben(ion) canlynol:
- Helpu i gynllunio a darparu’r gwasanaethau er mwyn diwallu eich anghenion
- Helpu i ddiogelu plant rhag camdriniaeth neu niwed
- Helpu i adolygu a gwella’r gwasanaethau’n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu darparu mor effeithiol ac effeithlon â phosibl
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cyflawni swyddogaeth statudol o dan ddeddfwriaeth. Yn benodol yn unol â:
- Deddf Plant 2004
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
- Deddf Llywodraeth Leol 2000
Os nad ydych yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu bod ein gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu’n llai effeithiol er mwyn helpu i ddiwallu eich anghenion.
2. Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?
Mae’n bosibl y byddwn ni’n casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Eich Teulu
- Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
- Eich Amgylchiadau Ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich Anghenion Tai
- Delweddau/Ffotograffau
- Gwybodaeth am eich Iechyd
- Eich Hil neu Gefndir Ethnig
- Cred Grefyddol neu Athronyddol
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
- Collfarnau Troseddol a Throseddau
3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?
I ddarparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu’r wybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o’r ffynonellau canlynol:
- Byrddau Iechyd Lleol
- Adrannau eraill Cyngor Sir (e.e. Gwasanaethau Tai, y Dreth Gyngor)
- Awdurdodau Lleol Eraill
- Heddluoedd Rhanbarthol (e.e. Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru)
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol Eraill
- Practisau Meddygon Teulu
- Adran Gwaith a Phensiynau
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhyw
- Rhif Cyfeirnod Unigryw
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad E-bost
- Eich Teulu
- Eich Amgylchiadau Cymdeithasol
- Eich Amgylchiadau Ariannol
- Manylion Cyflogaeth ac Addysg
- Eich Anghenion Tai
- Delweddau/Ffotograffau
- Gwybodaeth am eich Iechyd
- Eich Hil neu Gefndir Ethnig
- Cred Grefyddol neu Athronyddol
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
- Collfarnau Troseddol a Throseddau
4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig oni bai bod yn rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig oni bai bod yn rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
5. Pwy all weld eich gwybodaeth?
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â’r canlynol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Byrddau Iechyd Lleol
- Adrannau Eraill Cyngor Sir Caerfyrddin (e.e. Gwasanaethau Tai, y Dreth Gyngor)
- Awdurdodau Lleol Eraill
- Heddluoedd Rhanbarthol (e.e. Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru)
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol Eraill
- Practisau Meddygon Teulu
- Adran Gwaith a Phensiynau
Mae rhai sefyllfaoedd penodol eraill lle mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, er enghraifft:
- Pan fo’r gyfraith yn mynnu bod y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth
- Pan fo angen datgelu’r wybodaeth i atal neu ddatrys trosedd
- Pan fo datgelu er budd pennaf y person dan sylw
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â Chanllawiau’r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: 21 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Mabwysiadu (ffeiliau plant): 100 o flynyddoedd ers i’r plentyn gael ei fabwysiadu
- Mabwysiadu (ffeiliau rhieni mabwysiadol): 100 o flynyddoedd ers i’r plentyn gael ei fabwysiadu
- Mabwysiadu (gofalwyr sydd heb gael eu cymeradwyo): 10 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Plentyn mewn Angen: 10 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Seicoleg Addysg a Phlant: 35 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Lles Addysg: 10 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Maethu (ffeiliau plant): 75 mlynedd o ben-blwydd y plentyn yn 18 oed
- Maethu (ffeiliau gofalwyr): 35 mlynedd ar ôl y cyswllt olaf neu farwolaeth
- Maethu (gofalwyr sydd heb gael eu cymeradwyo): 10 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Anableddau Dysgu: 10 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Plant sy’n Derbyn Gofal: 75 mlynedd o ben-blwydd y plentyn yn 18 oed
- Anableddau Corfforol: 10 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Diogelu: 35 mlynedd ar ôl cau’r ffeil
- Cartrefi Preswyl (Derbyn Gofal): Parhaol
- Cartrefi Preswyl (Seibiant): 75 mlynedd o ben-blwydd y plentyn yn 18 oed
- Troseddau Ieuenctid a Gwaith Atal:25 mlynedd o ddyddiad geni’r plentyn
7. Eich hawliau o ran Diogelu Data
Mae gennych yr hawl i:
- Cael mynediad i’r data personol y mae Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ei brosesu amdanoch
- Cywiro unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn
- Tynnu eich caniatâd yn ôl o ran prosesu’r wybodaeth, os mai hwn yw’r unig sail i brosesu’r wybodaeth
- Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy’n diogelu hawliau gwybodaeth
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd gennych yr hawl i:
- Gwrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
- Dileu eich data personol
- Cyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
- Trosglwyddo Data
8. Manylion Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a’ch hawliau, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk
Mae’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.