Cymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi'u mabwysiadu

P’un a gawsoch chi eich mabwysiadu yn ddiweddar neu flynyddoedd lawer yn ôl, mae cymorth ar gael i chi drwy gydol eich bywyd.

Gweld eich cofnodion mabwysiadu

Os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, mae gennych chi hawl gyfreithiol i weld gwybodaeth am eich mabwysiadu, gan gynnwys manylion am eich teulu geni.

Efallai eich bod chi'n chwilio am

  • Copi o'ch cofnodion, i ddeall eich hanes yn well

  • Atebion am eich cefndir a'r man rydych chi'n dod ohono

  • Cymorth i olrhain neu ailgysylltu â pherthnasau geni

  • Cymorth i wneud synnwyr o'ch profiadau cynnar

Beth bynnag yw eich rhesymau, maen nhw’n ddilys. Byddwn ni’n symud ar gyflymder sy’n teimlo’n iawn i chi, gan esbonio pa wybodaeth sydd ar gael a’ch helpu i feddwl am eich opsiynau yn ofalus ac yn ddiogel.

Archwilio cyswllt â'ch teulu geni

Os byddwch chi’n dewis archwilio cyswllt â’ch perthnasau geni, gallwn ni eich cefnogi drwy’r broses olrhain ac unrhyw drefniadau y cytunir arnyn nhw.

Gall gwneud cyswllt, neu hyd yn oed feddwl amdano, achosi cymysgedd o emosiynau. Rydyn ni yma i gynnig arweiniad a chymorth ymarferol fel bod unrhyw gyfathrebu yn cael ei wneud yn feddylgar ac yn ddiogel.

Gallwn ni hefyd gefnogi perthnasau geni yn ystod y broses hon, gan helpu pawb dan sylw i greu cysylltiadau cadarnhaol ac ystyrlon lle bo hynny’n briodol.

Cyngor, cwnsela a chymorth gan gymheiriaid

Rydyn ni’n cynnig cyngor, cwnsela a chyfleoedd am gymorth gan gymheiriaid i bobl ifanc ac oedolion mabwysiedig. Gall siarad â rhywun sy’n deall mabwysiadu, neu gysylltu ag eraill sy’n rhannu profiadau tebyg, fod o gymorth mawr wrth feddwl am hunaniaeth, perthnasoedd a’ch taith bersonol.

Dau ffrind yn eistedd ar y soffa, yn sgwrsio ac yn yfed te.

System cyswllt blwch post

Os cawsoch chi gyswllt blwch post wrth dyfu i fyny, mae copïau o’r ohebiaeth wedi’u cadw ar ffeil. Ar ôl i chi gyrraedd 18 oed, gallwch chi ofyn am gael gweld y wybodaeth hon os ydych chi’n dymuno.

Dyn ifanc yn eistedd mewn cadair ac yn darllen llythyr.

Rydyn ni yma i wrando

Mae mabwysiadu yn rhan o’ch hanes, a pha bynnag gam rydych chi arno, rydyn ni yma i wrando a’ch cefnogi.