Cymorth i deuluoedd geni

Os yw rhywun yn eich teulu (boed yn blentyn, ŵyr, brawd neu chwaer, nith neu nai) wedi’i fabwysiadu, mae cymorth ar gael i chi.

Rydyn ni’n deall y gall mabwysiadu achosi amrywiaeth eang o emosiynau, cwestiynau ac ansicrwydd. Ein rôl ni yw sicrhau eich bod yn cael eich trin â pharch, a’ch bod yn cael gwybodaeth a chymorth drwy gydol y broses.

Byddwn ni’n eich helpu i baratoi ar gyfer yr hyn y mae mabwysiadu yn ei olygu, yn ymarferol ac yn emosiynol.

Wyr neu wyres yn cofleidio ei nain.

Y cymorth sydd ar gael

  • Cyngor a chwnsela i rieni geni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd a'r teulu estynedig

  • Arweiniad clir drwy bob cam o'r broses fabwysiadu

  • Cymorth gyda Gwaith Hanes Bywyd a Llythyrau Bywyd Diweddarach

  • Arweiniad ynghylch galar, colled a rheoli newid

Nid oes rhaid i chi lywio hyn ar eich pen eich hun.

Cadw mewn cysylltiad ar ôl mabwysiadu

Mewn llawer o achosion mabwysiadu, cytunir ar ryw fath o gyswllt parhaus rhwng y teulu sy’n mabwysiadu a’r teulu geni. Gall hyn gynnwys cyswllt uniongyrchol, cyswllt anuniongyrchol (blwch post), neu weithiau gyfuniad o’r ddau, yn dibynnu ar yr hyn sydd er lles pennaf y plentyn yn ôl asesiad.

Cyswllt uniongyrchol

Cyfarfodydd y cytunwyd arnyn nhw rhwng y plentyn neu’r person ifanc a’i deulu geni. Gall hyn gynnwys rhieni geni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, aelodau o’r teulu estynedig neu ofalwyr maeth, lle bo hynny’n briodol.

Cyswllt anuniongyrchol (blwch post)

Ffordd strwythuredig o gadw mewn cysylltiad gyda chefnogaeth, fel arfer drwy gyfnewid un llythyr y flwyddyn. Dyma’r math mwyaf cyffredin o gyswllt a gall gynnwys rhieni geni, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, aelodau o’r teulu estynedig neu ofalwyr maeth.

Mae’r system cyswllt blwch post fel arfer yn dechrau ar ôl i Orchymyn Mabwysiadu gael ei roi ac yn parhau hyd nes y bydd y plentyn yn troi’n 18 oed, oni bai ei fod yn cael ei adolygu neu ei amrywio.

Cyswllt yn oedolyn

Pan fydd person a fabwysiadwyd yn cyrraedd 18 oed, mae ganddo hawl i weld ei gofnodion a phenderfynu a yw’n dymuno archwilio cyswllt.

Os ydych chi’n rhiant geni, brawd neu chwaer, nain neu daid, neu’n aelod o deulu estynedig person a fabwysiadwyd ac yr hoffech archwilio’r posibilrwydd o gysylltu unwaith y bydd yn oedolyn, gallwn ni gynnig cyngor ac arweiniad.

Rydyn ni’n darparu gwasanaethau chwilio a chyfryngu, er y gall yr amserau aros weithiau fod yn hir. Gallwn ni hefyd eich cyfeirio at sefydliadau gwirfoddol ac elusennau arbenigol sy’n cynnig gwasanaethau tebyg, er y gall y rhain godi ffi.

Gweithiwr cymdeithasol yn cwrdd â dau ddarpar fabwysiadwr.

Rydyn ni yma i chi

Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae ein tîm yma i wrando, ateb eich cwestiynau a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.