Mabwysiadu yn eich busnes

Mae mynd trwy’r broses fabwysiadu yn gofyn am ymrwymiad, amser, ffocws, ac yn bwysicaf oll cefnogaeth gan deulu, ffrindiau a chyflogwyr.

Mae yna lawer o ffyrdd i gefnogi mabwysiadu yn eich busnes, nid oes rhaid iddo fod yn ddrud na chymryd llawer o amser. Mewn gwirionedd, gall helpu i gryfhau’ch busnes trwy eich helpu i ddenu a chadw staff.

Pecyn Cymorth

Mae ein pecyn cymorth i fusnesau Mabwysiadu yn eich Busnes yn helpu busnesau i ddarparu’r cymorth cywir i ddarpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy, p’un a ydynt eisoes yn rhan o’ch busnes neu’n gwneud cais i ymuno â chi.

Y tu mewn, fe welwch ganllawiau clir ynghylch:

  • Cefnogi mabwysiadu yn eich gweithle
  • Absenoldeb rhiant i fabwysiadwyr
  • Dangos eich cymorth mabwysiadu ar-lein
  • Cefnogi rhieni mabwysiadol newydd
  • Trafod mabwysiadu gyda’ch gweithwyr
Dau berson yn rhoi 'high-five' i'w gilydd yn y gwaith.