Pan fyddwch chi’n dewis Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, rydych chi’n dewis gwasanaeth a fydd yn sefyll ochr yn ochr â chi o’ch ymholiad cyntaf a thrwy gydol eich taith.
Beth allwch chi ei ddisgwyl wrthon ni

O’r alwad ffôn gyntaf, roedden ni’n teimlo ein bod ni’n cael ein cefnogi. Roedd y tîm yn onest, yn gysurlon, ac ar gael bob amser pan oedd angen cyngor arnon ni. Doedden ni byth yn teimlo ar ben ein hunain.”